Search Legislation

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Tachwedd 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “archwiliad swyddogol” (“official examination”) yw archwiliad neu arolygiad a gynhelir gan swyddog awdurdodedig, gan gynnwys un a gynhelir drwy sampl;

ystyr “ardystio” (“certification”) yw—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, ardystiad yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, ardystiad gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â'r Gyfarwyddeb;

a rhaid dehongli “ardystiedig” (“certified”) yn unol â hynny;

ystyr “Awdurdod Ardystio” (“Certification Authority”) yw'r awdurdod sy'n ymwneud ag ardystio tatws hadyd yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd;

ystyr “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw'r catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaeth o blanhigion amaethyddol a gyhoeddir yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd;

ystyr “categori” (“category”) yw'r categori o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig (neu, mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, y categorïau sydd ag effaith gyfatebol o dan ddeddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn unol â chytundeb masnach y Swistir);

ystyr “Cyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 12 Mawrth 2001 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau wedi eu haddasu'n enetig(1), fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at a chan gynnwys y rheini y rhoddir eu heffaith iddynt gan Reoliad (EC) Rhif 1830/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ynghylch olrheinedd a labelu organeddau a addaswyd yn enetig ac olrheinedd bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig (2);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cytundeb masnach y Swistir” (“Swiss trade agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol(3), fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at ac yn cynnwys Penderfyniad y Comisiwn 2004/660/EC(4);

ystyr “dogfen swyddogol” (“official document”) yw—

(a)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n bodloni gofynion Rhan II o Atodlen 2; a

(b)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cafodd y tatws hadyd eu cynhyrchu sy'n bodloni gofynion Erthygl 13(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “dosbarth” (“class”) yw—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, y dosbarth neu'r Radd Gymuned a benderfynir—

(i)

yn ystod ardystiad, neu

(ii)

o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd 1991(5), a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, y dosbarth neu'r radd, os oes un, a bennir ar y label swyddogol a osodir ar y pecyn neu'r cynhwysydd y deuir â'r tatws hadyd i mewn i Gymru ynddo neu a bennir mewn unrhyw ddogfen swyddogol sydd yn y pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw;

ac mae “dosbarthiad” (“classification”), “dosbarthu” (“classify”), “wedi'i ddosbarthu” (“classified”) ac ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964;

mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys Gradd Gymuned;

ystyr “Gradd Gymuned” (“Community Grade”) yw un o'r graddau o datws hadyd sylfaenol (gradd 1 EC, gradd 2 EC neu gradd 3 EC) a benderfynir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/17/EEC ar 30 Mawrth 1993 sy'n penderfynu graddau Cymuned tatws hadyd sylfaenol, ynghyd â'r amodau a'r dynodiadau sy'n gymwys i raddau o'r fath(6);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar farchnata tatws hadyd(7), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/66/EC dyddiedig 28 Ionawr 2003(8) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2003/61/EC dyddiedig 18 Mehefin 2003(9);

ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw—

(a)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol nas defnyddiwyd o'r blaen sy'n bodloni gofynion Rhan II o Atodlen 2; a

(b)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd sy'n bodloni gofynion, yn ôl y priodoldeb i'r tatws hadyd y mae'r label yn cyfeirio atynt, Erthygl 13(1)(a) neu Erthygl 18(f) o'r Gyfarwyddeb neu Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC dyddiedig 1 Rhagfyr 2004 ynghylch gweithredu rheolau sy'n galluogi Aelod-wladwriaethau i awdurdodi rhoi ar y farchnad had o amrywogaethau y cafodd cais i'w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol ei gyflwyno(10);

ystyr “lot” (“lot”) at ddibenion rheoliadau 6(2) a (3) a 10 yw llwyth neu ran y gellir ei adnabod o lwyth sydd wedi ei gofnodi a'i gofrestru fel eitem ar wahân mewn anfoneb, nodyn danfon neu ddogfen arall a ddarperir yn unol â rheoliad 16;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir neu adeilad, ac eithrio tŷ annedd preifat, ac unrhyw adeiledd sefydlog neu symudol, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad neu gynhwysydd llwyth;

ystyr “marchnata” (“marketing”) yw—

(a)

gwerthu, dal gafael ar gyda golwg ar werthu neu gynnig ar werth; a

(b)

unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo at ddibenion defnydd masnachol o datws hadyd gyda thrydydd partïon,

p'un ai am gydnabyddiaeth ai peidio ac at y dibenion hyn nid yw “defnydd masnachol” (“commercial exploitation”) i'w ddeall fel petai'n cynnwys cyflenwi tatws hadyd i gyrff arolygu a phrofi swyddogol, na chyflenwi tatws hadyd i unrhyw berson at ddibenion eu prosesu na'u pecynnu cyn belled ag nad yw'r person hwnnw yn ennill hawl i'r tatws hadyd a gyflenwir; ac mae “marchnata” (“marketing”), “wedi'i farchnata” (“marketed”) ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

ystyr “pecyn neu gynhwysydd” (“package or container”) yw—

(a)

unrhyw becyn na chafodd ei ddefnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben ac y mae modd ei gau a'i selio; neu

(b)

unrhyw gynhwysydd na chafodd ei ddefnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben, neu unrhyw gynhwysydd sydd, ers iddo gael ei ddefnyddio o'r blaen, wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio cyn belled a bod rhaid i ddefnyddio unrhyw gynhwysydd o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu” (“protected region”) yw sir Cumbria, heb gynnwys dosbarthiadau Barrow-in-Furness a De Lakeland, a sir Northumberland, heb gynnwys dosbarthiadau Blyth Valley a Wansbeck;

ystyr “Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“Food and Feed Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi ei addasu'n enetig(11);

ystyr “Rhestr Genedlaethol” (“National List”) yw rhestr o amrywogaethau o rywogaethau tatws sydd wedi ei pharatoi a'i chyhoeddi—

(a)

yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(12); neu

(b)

gan Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol(13) fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol neu berson a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn;

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu ran ohoni neu unrhyw blanhigyn Solanum tuberosum L. neu ran ohono neu unrhyw rywogaeth arall sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw o Solanum L.;

ystyr “tatws hadyd” (“seed potatoes”) yw—

(a)

tatws sy'n dwyn y disgrifiad hwnnw neu unrhyw ddisgrifiad sy'n dynodi eu haddasrwydd ar gyfer eu plannu a'u lluosogi ac y mae modd eu defnyddio i'w plannu a'u lluosogi; neu

(b)

unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i'w plannu a'u lluosogi;

ystyr “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru” (“seed potatoes produced outside Wales”) yw—

(a)

tatws hadyd a gynhyrchir yn unrhyw rhan o Ynysoedd Prydain ac eithrio Cymru;

(b)

tatws hadyd a gynhyrchir yn unrhyw Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu

(c)

tatws hadyd a gynhyrchir yn Swistir;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws ac eithrio tatws hadyd ac a ardystiwyd fel tatws hadyd ardystiedig yn unol â rheoliad 9; ac

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sydd yn datws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd ardystiedig yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tatws hadyd cyn-sylfaenol” (“pre-basic seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd sylfaenol ac a ardystiwyd fel tatws cyn-sylfaenol yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sy'n datws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol yn unol ag Erthygl 18(f) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu” (“test and trial seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd y Cynulliad Cenedlaethol eu marchnata at ddibenion profi a threialu yn unol â rheoliad 8; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC.

ystyr “tatws hadyd sylfaenol” (“basic seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd ardystiedig ac a ardystiwyd fel tatws hadyd sylfaenol yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tystysgrif cnwd sy'n tyfu” (“growing crop certificate”) yw—

(a)

tystysgrif cnwd sy'n tyfu a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 1;

(b)

tystysgrif tatws hadyd cyn-sylfaenol a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991;

(c)

tystysgrif tatws hadyd sylfaenol a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991; neu

(ch)

tystysgrif tatws hadyd ardystiedig a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991;

y mae i “wedi'i addasu'n enetig” yr un ystyr ag sydd i “genetically modified” yn y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

(2O ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y Gyfarwyddeb neu at Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC neu unrhyw ddarpariaeth o'u mewn i'w ddehongli fel cyfeiriad at fod deddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn cael effaith gyfatebol yn unol â chytundeb masnach y Swistir.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at oddefiant o ran tatws hadyd sy'n ffurfio sampl i gael ei ddehongli—

(a)o ran goddefiant at unrhyw glefyd, pla neu ddifrod a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad at gyfrannedd pwysau'r tatws hadyd yn y sampl yr effeithir arnynt gan y clefyd, y pla neu'r difrod, neu gan unrhyw gyfuniad o'r clefyd, y pla neu'r difrod hwnnw, mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi mewn canran;

(b)o ran goddefiant at faw neu fater allanol arall a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad a gyfrannedd pwysau mater o'r fath mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi mewn canran; ac

(c)o ran goddefiant at wyriad neu glefyd a bennir yn y tablau yn Atodlen 4, fel cyfeiriad at nifer y planhigion o datws hadyd yr effeithir arnynt gan y gwyriad neu'r clefyd mewn perthynas â chyfanswm nifer y planhigion yn y sampl, wedi ei fynegi mewn canran.

(4At ddibenion Atodlen 1, mae i “uned amaethyddol” yr ystyr a roddir i'r ymadrodd “agricultural unit” yn adran 109(2) o Ddeddf Amaeth 1947(14).

(5Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nas diffinnir yn y rheoliad hwn neu mewn man arall yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yn y Gyfarwyddeb neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb neu yn y Penderfyniad hwnnw.

Tatws hadyd nad yw'r rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i datws hadyd a fwriedir ar gyfer eu hallforio i unrhyw wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.

Marchnata tatws hadyd

4.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol;

(b)tatws hadyd sylfaenol;

(c)tatws hadyd ardystiedig;

(ch)tatws hadyd gwyddonol a rhai i'w dethol; neu

(d)tatws hadyd i'w profi a'u treialu.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd a gafodd eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel eli i lesteirio eginiad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “tatws hadyd gwyddonol a rhai i'w dethol” (“scientific and selection seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd y Cynulliad Cenedlaethol eu marchnata yn unol â rheoliad 7; a

(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws eu marchnata yn unol ag Erthygl 6(1)(a) o'r Gyfarwyddeb.

Marchnata yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu

5.  Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd o fewn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu ac eithrio—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol; neu

(b)tatws hadyd sylfaenol sydd wedi cael eu graddio gyda Gradd Gymuned ac sy'n bodloni gofynion Penderfyniad y Comisiwn 2004/3/EC dyddiedig 19 Rhagfyr 2003 yn awdurdodi, o ran marchnata tatws hadyd yn y cyfan o diriogaeth Aelod-wladwriaethau penodol, neu mewn rhan ohono, fesurau llymach yn erbyn clefydau penodol nag a ddarperir ar eu cyfer yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC(15).

Maint tatws hadyd

6.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio tatws hadyd o ddosbarth TC cyn-sylfaenol onid yw lleiafswm eu maint yn eu rhwystro rhag mynd drwy rwyll sgwâr 25 o filimetrau x 25 o filimetrau.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd mewn lot pan fo mwyafswm yr amrywiad rhwng cloron yn gyfryw a bod y gwahaniaeth rhwng y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir yn fwy na 25 o filimetrau.

(3Mae gofynion paragraff (2) i gael eu trin fel petaent wedi eu bodloni cyhyd ag nad oes mwy na thri y cant o bwysau cyfan y cloron yn y lot yn cynnwys—

(a)cloron sy'n llai na'r maint lleiaf a ganiateir; neu

(b)cloron sy'n fwy na'r maint mwyaf a ganiateir.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “y maint lleiaf a ganiateir” (“the lower size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen leiaf drwyddi; ac

(b)ystyr “y maint mwyaf a ganiateir” (“the upper size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen fwyafa drwyddi;

(5Pan fo'n ofynnol datgan maint tatws hadyd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid datgan—

(a)mesuriadau sgwariau'r rhwyll nad elo'r cloron drwyddi, pan mai'r un yw'r maint lleiaf a ganiateir â'r maint mwyaf a ganiateir; neu

(b)y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir pan fo'r rhain yn wahanol i'w gilydd.

(6At ddibenion paragraff (5), mae mesuriadau o fwy na 35 o filimetrau i gael eu datgan at y pum milimetr agosaf.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol

7.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd fesul ychydig at ddibenion gwyddonol neu waith dethol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata tatws hadyd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu'n enetig oni bai bod awdurdodiad mewn grym o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(3Rhaid i gais am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd ar gyfer profion neu dreialon ar fentrau amaethyddol er mwyn casglu gwybodaeth ar drin neu ddefnyddio amrywogaeth o rywogaeth o datws yn unol â'r rheoliad hwn ac ag Atodlen 5.

(2Rhaid i gais am awdurdodiad neu i adnewyddu awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata—

(a)swm o datws hadyd sy'n fwy nag a ganiateir gan Erthygl 7 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC;

(b)tatws hadyd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu'n enetig oni bai bod y deunydd hwnnw wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(4Caiff awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1), neu adnewyddu awdurdodiad o'r fath, fod am gyfnod o flwyddyn neu am unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Wrth awdurdodi marchnata yn unol â pharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod yr amodau hynny ag y mae'n tybio eu bod yn angenrheidiol neu yn ddymunol o ystyried natur y profion neu'r treialon a natur y tatws hadyd y mae'r cais yn ymwneud â hwy gan gynnwys amod yn ymwneud â chadw cofnodion o ran marchnata'r tatws hadyd.

(6Mae awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)pan fo'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) o Atodlen 5 yn cael ei dynnu'n ôl neu ei wrthod yn unol â'r Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001; neu

(b)bod yr amrywogaeth o rywogaeth y mae'r tatws hadyd y mae'r awdurdodiad yn ymwneud â hwy wedi ei gofnodi mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffrredin.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl unrhyw awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) pan dorrir unrhyw amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5).

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r person a gafodd awdurdodiad yn unol â pharagraff (1) ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â—

(a)canlyniadau'r profion neu'r treialon y mae'r awdurdodiad yn ymwneud â nhw; neu

(b)symiau'r tatws hadyd a farchnatawyd yn ystod y cyfnod a awdurdodwyd ac enw'r Aelod-wladwriaeth lle bwriedir marchnata'r tatws hadyd.

Ardystio tatws hadyd

9.—(1Rhaid i ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i swyddog awdurdodedig ardystio bod tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru naill ai—

(a)yn datws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)yn datws hadyd sylfaenol, neu

(c)yn datws hadyd ardystiedig,

os yw gofnion paragraff (3) wedi'u bodloni.

(3Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod tystysgrif cnwd sy'n tyfu wedi cael ei dyroddi o ran y tatws hadyd; a

(b)o'u harchwilio'n swyddogol bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw'r tatws hadyd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn narpariaethau priodol Atodlen 3.

(4Rhaid i gais am ardystiad o datws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5At ddibenion paragraff (2), mae label swyddogol a ddyroddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn o ran tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol bod swyddog awdurdodedig wedi ardystio bod y tatws hadyd y mae'r label yn ymwneud â nhw yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol neu yn datws hadyd ardystiedig, yn ôl y digwydd.

Cyfansoddiad lotiau o datws hadyd

10.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol na thatws hadyd ardystiedig ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd—

(a)o un categori;

(b)o un amrywogaeth; ac

(c)o un dosbarth.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd o un amrywogaeth;

(3At ddibenion y rheoliad hwn rhaid trin lot o datws hadyd fel petai ei chynnwys yn gyfangwbl o un amrywogaeth cyn belled â bod—

(a)o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, nad yw nifer y tatws hadyd yn y lot nad ydynt o'r wir amrywogaeth mewn perthynas â'r nifer cyfan o datws hadyd yn y lot—

(i)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol heb fod yn fwy na 0.01 y cant;

(ii)yn achos tatws hadyd sylfaenol heb fod yn fwy na 0.1 y cant; ac

(iii)yn achos tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu heb fod yn fwy na 0.2 y cant; ac

(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, bod y lot yn ddigon cydryw yn unol â'r safonau a osodir gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â'r Gyfarwyddeb o ran marchnata'r tatws hynny.

Pecynnau a chynhwysyddion ar gyfer tatws hadyd

11.  Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd.

Labelu pecynnau a chynhwysyddion tatws hadyd

12.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)tatws hadyd sylfaenol,

(c)tatws hadyd ardystiedig, na

(ch)tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu,

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

(a)sydd â label swyddogol ynghlwm i'r tu allan iddo; ac

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sy'n cynnwys dogfen swyddogol.

(3Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys—

(a)pan fo'r manylion a bennir ym mharagraff 14 o Atodlen 2 wedi'u hargraffu'n annileadwy ar y pecyn neu'r cynhwysydd; neu

(b)pan fo'r label swyddogol o ddeunydd gludiog neu o ddeunydd sy'n gwrthsefyll traul.

(4Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am labelau swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Ar ôl iddo'i fodloni ei hun o'r canlynol yn unig y mae'r Cynulliad Cenedlaethol i ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

(a)bod y tatws hadyd yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol, yn datws hadyd ardystiedig neu'n datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu;

(b)mae'r tatws hadyd yn cydymffurfio â'r gofynion maint lleiaf a bennir yn rheoliad 6(1) ac nid yw'r amrywiad mwyaf mewn maint rhwng cloron yn fwy na'r hyn a bennir yn rheoliad 6(2);

(c)mae'r tatws hadyd wedi eu cynnwys mewn pecyn neu gynhwysydd;

(ch)nid yw'r tatws hadyd wedi cael eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel eli i lesteirio eginiad;

(d)cafodd y tatws hadyd eu cynaeafu, eu storio, eu cludo a'u trafod mewn modd sy'n lleihau hyd yr eithaf risg o halogiad drwy unrhyw un o'r clefydau neu'r plâu a bennir yn Atodlen 3;

(dd)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 18, nid yw'r tatws hadyd yn mynd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau, plâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y rhan briodol o Atodlen 3; ac

(e)ni fu unrhyw fethiant arall i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn o ran unrhyw un o'r tatws hadyd.

(6Os cafodd pecyn neu gynhwysydd ei ail selio gan swyddog awdurdodedig yn unol â rheoliad 13(4) rhaid i'r label swyddogol ddatgan—

(a)bod y pecyn neu'r cynhwysydd wedi cael ei ail selio felly;

(b)dyddiad yr ail selio; ac

(c)enw'r swyddog awdurdodedig fu'n gyfrifol am yr ail selio.

(7Pan fo unrhyw datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu wedi cael eu trin ag unrhyw gynnyrch cemegol, rhaid i fath a swyddogaeth neu enw priodol y cynnyrch hwnnw—

(a)fod wedi ei ddatgan ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn neu'r cynhwysydd; a

(b)naill ai—

(i)fod wedi ei ddatgan ar ddogfen sydd yn y pecyn neu'r cynhwysydd; neu

(ii)fod wedi ei ddatgan yn annileadwy ar y pecyn neu'r cynhwysydd;

(8At ddibenion adran 16(7)(a) o'r Ddeddf, ni ellir dal fod gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywogaeth o datws hadyd a geir mewn datganiad statudol yn gamarweiniol mewn manylyn perthnasol yn unig am ei fod yn gamarweiniol—

(a)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, o ran dim mwy na 0.01 y cant o'r tatws hadyd;

(b)yn achos tatws hadyd sylfaenol, o ran dim mwy na 0.1 y cant o'r tatws hadyd; ac

(c)yn achos tatws hadyd ardystiedig a thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu, o ran dim mwy na 0.2 y cant o'r tatws hadyd.

(9Ac eithrio yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau hyn neu Orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(16), rhaid i berson beidio, mewn cysylltiad â marchnata unrhyw datws hadyd, neu mewn cysylltiad â'u paratoi at y farchnad, mynd ati'n fwriadol i atgynhyrchu, symud ymaith, altro, difwyno, cuddio neu gamdrin mewn unrhyw fodd unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu unrhyw label sydd ynghlwm neu ddogfen a gyflenwir yn unol â pharagraff (2).

Selio pecynnau a chynhwysyddion

13.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)tatws hadyd sylfaenol,

(c)tatws hadyd ardystiedig, na

(ch)tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu,

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio'n briodol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i selio'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

(a)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, pecyn neu gynhwysydd caeëdig sydd wedi cael ei selio â dyfais selio nas torrwyd, gan swyddog awdurdodedig neu dan ei oruchwyliaeth; a

(b)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, pecyn neu gynhwysydd caeëdig sydd wedi cael ei selio yn unol ag Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dyfais selio” (“sealing device” ) yw dyfais a gymhwyswyd i'r pecyn neu'r cynhwysydd yn y fath fodd fel y bydd yn cael ei thorri pan agorir y pecyn neu'r cynhwysydd.

(4Pan fo dyfais selio ar becyn neu gynhwysydd wedi ei thorri, rhaid peidio ag ail selio'r pecyn neu'r cynhwysydd â dyfais selio ac eithrio gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth.

Dull adnabod tatws hadyd sydd wedi cael eu haddasu'n enetig

14.  Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd wedi eu haddasu'n enetig oni bai—

(a)y dangosir yn glir mewn unrhyw wybodaetrh farchnata, gan gynnwys unrhyw gatalog gwerthu neu sylwadau marchnata eraill a ddarperir gan y person sy'n gwerthu'r tatws hadyd, bod y tatws hadyd wedi cael eu haddasu'n enetig; a

(b)bod unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu label neu ddogfen arall sydd ynghlwm wrth, sy'n mynd gyda neu sy'n ymwneud â'r tatws hadyd yn dangos yn glir eu bod wedi cael eu haddasu'n enetig.

Tatws hadyd o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd: gwybodaeth

15.  Rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata mwy na dau gilogram o datws hadyd a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig ac o fewn mis i farchnata'r tatws am y tro cyntaf, y manylion a bennir yn Atodlen 6.

Manylion ar wahân

16.  Yn ddarostyngedig i rheoliad 17, rhaid i berson sy'n gwerthu tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ddyroddi i'r prynwr, dim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y gwerthiant, neu os nad yw'r tatws hadyd yn cael eu danfon ar adeg y gwerthiant, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl eu danfon, nodyn gwerthiant, nodyn danfon, anfoneb neu ddogfen gyffelyb yn pennu, o ran y tatws hadyd, y manylion a bennir yn Atodlen 7.

Manwerthiannau o datws hadyd

17.  Nid yw Rheoliadau 11, 12, 13 a 16 yn gymwys i werthiant o lai na 50 o gilogramau o datws hadyd—

(a)mewn amgylchiadau pan ddangosir yn amlwg ar adeg y gwerthiant ar label sydd ynghlwm wrth becyn sy'n cynnwys y tatws hadyd, neu ar ddogfen neu hysbysiad a osodir gerllaw y tatws hadyd, ddatganiad o'r manylion a bennir yn Atodlen 7; neu

(b)mewn cynhwysyddion heb gael eu defnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben sydd â'r manylion a bennir yn Atodlen 7 wedi eu hargraffu neu wedi eu marcio yn ddealladwy ac yn annileadwy mewn modd arall arnynt neu y ceir ynghlwm wrth neu o fewn pob un ohonynt label a farciwyd â'r manylion hynny.

Samplu tatws hadyd

18.—(1Rhaid i sampl o datws hadyd a gymerir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i sampl sy'n ofynnol—

(a)at unrhyw ddiben mewn cysylltiad ag ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, neu

(b)at unrhyw ddiben arall,

gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo fod o'r swmp neu'r nifer a ffurfio'r cyfryw ran neu rannau o'r cnwd sy'n tyfu neu sydd wedi eu gynaeafu ag sy'n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.

(3Pan fo sampl yn ofynnol o dan baragraff (2)(b) ac mae crynswth y tatws hadyd y dyroddwyd tystysgrif cnwd sy'n tyfu iddynt yn datws hadyd—

(a)sy'n ffurfio mwy nag un llwyth, neu

(b)sy'n gysylltiedig â mwy nag un tystysgrif cnwd sy'n tyfu,

mae'n rhaid ei rannu fel bod pob llwyth neu, yn ôl y digwydd, swmp y tatws sy'n gysylltiedig â phob tystysgrif cnwd sy'n tyfu yn ffurfio lot ar wahân a rhaid, os oes angen, samplu pob lot ar wahân.

Cadw cofnodion

19.—(1Rhaid i berson sy'n cynhyrchu tatws hadyd y bwriedir eu marchnata gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o bryniant y tatws hadyd y cynhyrchwyd y tatws hadyd hynny ohonynt ac o fanylion y cnydau a dyfwyd.

(2Rhaid i berson sy'n marchnata tatws hadyd gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o'i farchnata ar datws hadyd o'r fath.

Gorfodi — pwerau i archwilio ac i fynnu cyflwyno

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig gynnal archwiliad a chymryd samplau o datws hadyd ac arolygu a chymryd copïau o ddogfennau perthnasol at ddibenion sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn.

(2At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i berson ganiatáu, ar unrhyw amser rhesymol, i swyddog awdurdodedig—

(a)archwilio a chymryd samplau o datws hadyd sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth; a

(b)archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth;

(3At ddibenion y rheoliad hwn caiff swyddog awdurdodedig drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i berson ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)gyflwyno unrhyw datws hadyd neu unrhyw ddogfen berthnasol neu sicrhau eu bod ar gael; neu

(b)darparu gwybodaeth y mae'n ymwybodol ohoni neu'n ei chredu mewn cysylltiad â chynhyrchu, ardystio neu farchnata'r tatws hadyd.

(4Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn unol â pharagraff (3) gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw o fewn saith niwrnod i'w gyflwyno neu o fewn unrhyw gyfnod hwy o amser a bennir yn yr hysbysiad.

(5At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw dystysgrif cnwd yn tyfu, label swyddogol, dogfen swyddogol, dogfen neu label arall, neu gofnod neu anfoneb sy'n ymwneud â phlannu, cynhyrchu, ardystio neu farchnata tatws hadyd.

Gorfodi — pwer i dynnu'n ôl labelau swyddogol, dogfennau swyddogol a thystysgrifau cnwd yn tyfu

21.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

(a)pan fo wedi'i fodloni fod y tatws hadyd y mae'r label swyddogol neu'r ddogfen swyddogol yn ymwneud â nhw—

(i)heb gael eu cynaeafu, eu storio, eu cludo neu eu trafod mewn modd sy'n lleihau hyd yr eithaf y risg o halogiad gan unrhyw un o'r clefydau neu'r plâu a bennir yn Atodlen 3;

(ii)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 18, yn mynd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau, plâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y rhan briodol o Atodlen 3; neu

(iii)mewn modd arall yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn; neu

(b)pan fo wedi'i fodloni bod y label swyddogol neu'r ddogfen swyddogol yn cynnwys unrhyw fanylyn sy'n anwir mewn mater perthnasol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl dystysgrif cnwd yn tyfu pan fo wedi'i fodloni—

(a)nad oes, neu nad oes bellach, gydymffurfiaeth â gofynion Atodlen 1; neu

(b)bod y dystysgrif cnwd sy'n tyfu yn cynnwys unrhyw fanylyn sy'n anwir mewn mater perthnasol.

(3Pan dynnir yn ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii), caiff y tatws hadyd y cymerwyd y sampl ohonynt fod yn ddarostyngedig i archwiliad swyddogol er mwyn penderfynu a oes unrhyw rai ohonynt nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

(4Pan gynhelir archwiliad swyddogol yn unol â pharagraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol mewn perthynas â'r tatws hadyd hynny y canfyddir nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

(5Pan dynnir yn ôl label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu yn unol â'r rheoliad hwn, caiff swyddog awdurdodedig—

(a)symud ymaith a chadw'r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd sy'n tyfu; neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd yn tyfu yn ei feddiant ei ddanfon i'r swyddog awdurdodedig o fewn amser y caiff y swyddog awdurdodedig ei bennu.

(6Rhaid i berson sydd â label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu ac a gafodd ei thynnu'n ôl yn unol â'r rheoliad hwn yn ei feddiant neu dan ei reolaeth—

(a)ganiatáu i swyddog awdurdodedig symud ymaith y label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd yn tyfu yn unol â pharagraff (5)(a); a

(b)cydymffurfio ag unrhyw beth a wnaed yn ofynnol yn unol â pharagraff (5)(b).

Cyflwyno hysbysiadau

22.—(1At ddibenion rheoliad 20(3), bernir bod hysbysiad wedi cael ei gyflwyno i unrhyw berson os caiff ei ddanfon ato'n bersonol neu os caiff ei adael iddo yn ei gartref neu yn ei fan gwaith hysbys diwethaf neu ei anfon drwy'r post mewn llythyr wedi ei gyfeirio ato yno.

(2Caiff hysbysiad ei chyflwyno—

(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw;

(b)yn achos partneriaeth gan gynnwys partneriaeth Albanaidd (ac eithrio partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd), i bartner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth; neu

(c)yn achos partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd, i aelod o'r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno,

ac at ddibenion y paragraff hwn prif swyddfa cwmni sy'n gofrestredig y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy'n cyflawni busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

Diwygio darpariaethau'r Ddeddf

23.—(1Mewn cysylltiad â darpariaethau'r Rheoliadau hyn addesir neu eithrir gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Addesir adran 25(17) megis at ddibenion yr adran honno bod unrhyw gyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at “premises” (“mangre”) fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn a bod unrhyw gyfeiriad at is-adran sy'n cynnwys cyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at yr is-adran honno wedi ei haddasu felly.

(3Addesir adran 25(1) megis petai'r cyfeiriad at is-adran (4) o'r adran honno yn gyfeiriad at yr is-adran fel y'i haddaswyd gan ddarpariaeth paragraff (4).

(4Yn adran 25(4) hepgorer y geiriau o “potatoes” (pan fo'n digwydd gyntaf) i'r diwedd.

(5Yn adran 26, hepgorer adrannau (2), (4), (5), (6), (7), (8) a (9) .

Dirymiadau

24.  Dirymir y rheoliadau yn Atodlen 8 o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources