Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Dehongli

40.  Yn y Rhan hon—

ystyr “apêl sail (a)” (“ground (a) appeal”) yw apêl a gyflwynir o dan adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990; ac

ystyr “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) yw datblygiad AEA sy’n destun hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi)(1).

Gwahardd rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad AEA anawdurdodedig

41.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chaniatâd dilynol o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apeliadau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(2) mewn cysylltiad â datblygiad AEA anawdurdodedig oni bai bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth yn gyntaf, a rhaid iddynt nodi yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.

Barnau sgrinio

42.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi, fabwysiadu barn sgrinio.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda’r copi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 42”) y mae’n rhaid iddo—

(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1) a’r datganiad sy’n ofynnol gan reoliad 4(7); a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990(3) gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.

(3Rhaid i’r awdurdod a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 42 anfon copi ohono i—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr ymgynghoreion; ac

(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 42.

(4Pan fo awdurdod yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 42 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon iddynt.

Cyfarwyddydau sgrinio

43.—(1Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 42 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 42;

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi oedd yn mynd ynghyd ag ef; ac

(c)pa bynnag wybodaeth neu sylwadau eraill y gallai’r ceisydd ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais ac unrhyw wybodaeth neu sylwadau a ddarperir neu a wnaed yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 42.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2)(a) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd i’r ceisydd.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd i bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 42 atynt.

Darparu gwybodaeth

44.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw berson, ac eithrio Gweinidogion Cymru, yr anfonwyd copi o hysbysiad rheoliad 42 iddynt (“yr ymgynghorai rheoliad 42”), ymgynghori â’r person hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad rheoliad 42 iddo, er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai rheoliad 42 unrhyw wybodaeth yn ei feddiant y mae’r person hwnnw neu’r ymgynghorai rheoliad 42 yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gyfer paratoi datganiad amgylcheddol ac os oes ganddo, rhaid i’r ymgynghorai rheoliad 42 sicrhau bod unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r person hwnnw.

(2Mae rheoliad 15(5) yn gymwys i wybodaeth o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i unrhyw wybodaeth sy’n dod o fewn rheoliad 15(4).

Apêl i Weinidogion Cymru heb farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio

45.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 46.

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw i Weinidogion Cymru.

(3Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.

(4Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) i’r arolygydd.

(6Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 42 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(7Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (6) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw—

(a)mae’r cais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl a wnaed o dan adran 174 o Ddeddf 1990; a

(b)yr apêl i’r graddau y mae’n apêl sail (a),

yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

46.—(1Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Y weithdrefn yw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, hysbysu’r apelydd o ofynion is-baragraff (c) isod; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)nid oes angen hysbysu o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd yn—

(i)ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd i’r apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), bydd y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir neu a ganiateir (yn ôl y digwydd);

(f)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r terfynu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol bod y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) wedi dod i ben.

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

47.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl gorfodi (ac eithrio fel y crybwyllir yn rheoliad 46(2)(b)), rhaid iddynt—

(a)anfon copi o’r datganiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cynghori’r awdurdod y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un), a’i hysbysu y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(b)hysbysu’r personau yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 42 perthnasol atynt y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un), a’u hysbysu y caniateir iddynt gyflwyno sylwadau ac, os ydynt yn dymuno cael copi o’r datganiad neu unrhyw ran ohono, bod yn rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o’u gofynion o fewn 7 diwrnod i gael hysbysiad Gweinidogion Cymru; ac

(c)ymateb i ofynion a hysbysir yn unol â pharagraff (b) drwy ddarparu copi o’r datganiad neu o’r rhan y gofynnwyd amdani (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddol

48.  Mae rheoliad 22(1) a (10) yn gymwys i ddatganiadau a ddarperir yn unol â’r Rhan hon gyda’r addasiadau canlynol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn hysbysu’r apelydd o dan reoliad 22(1), rhaid i’r apelydd ddarparu’r wybodaeth bellach o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd;

(b)os bydd apelydd y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan baragraff (a) yn methu â darparu’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod a bennir neu a ganiateir, bydd y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer datganiadau amgylcheddol neu wybodaeth bellach

49.—(1Pan fo awdurdod yn cael copi o ddatganiad neu wybodaeth bellach yn rhinwedd rheoliad 47(a) neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb lleol sy’n nodi—

(a)enw’r apelydd a bod yr hysbysiad gorfodi wedi ei apelio i Weinidogion Cymru;

(b)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a natur y datblygiad;

(c)digon o wybodaeth i alluogi adnabod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)bod copi o’r datganiad, gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ac o unrhyw ganiatâd cynllunio ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y datganiad neu wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy’n cael ei drin yn y datganiad neu’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i Weinidogion Cymru dim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e); a

(g)y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo.

(2Rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraff (1), anfon copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, wedi ei ardystio gan neu ar ran yr awdurdod ei fod wedi ei gyhoeddi drwy hysbyseb lleol ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru sy’n cael tystysgrif o dan baragraff (2) nac arolygydd benderfynu ar y cais tybiedig na’r apêl sail (a) mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef hyd nes bod y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cyhoeddedig fel y dyddiad olaf yr oedd y datganiad neu’r wybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt wedi dod i ben.

Dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt

50.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—

(a)pob hysbysiad rheoliad 42 a roddwyd gan yr awdurdod;

(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 46(2)(d); ac

(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 47(a);

a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael ei gosod yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

(2Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(4), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

(3Mae darpariaethau rheoliad 24(2) a (3) yn gymwys i gais tybiedig a chaniatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Effeithiau trawsffiniol sylweddol

51.  Mae rheoliad 53 yn gymwys i ddatblygiad AEA anawdurdodedig fel pe bai—

(a)rheoliad 53(1)(a) yn darllen—

(a)wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA a bod y datblygiad wedi neu yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu;

(b)yn rheoliad 53(3)(a), “copi o’r cais dan sylw”, yn darllen “disgrifiad o’r datblygiad dan sylw”;

(c)yn rheoliad 53(6), “y cais” yn darllen “yr apêl”.

(1)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf 1991.

(2)

Amnewidiwyd adran 177 gan adrannau 6(3) a 32 o Ddeddf 1991, ac Atodlen 7, paragraff 24 iddi; a chan adran 123(1), (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

Diwygiwyd adran 174 gan adran 6(1) o Ddeddf 1991 a pharagraff 22 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 46; a chan O.S 2003/956. Gweler hefyd adran 177(5) a ddiwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.

(4)

Gweler adran 177(8) o Ddeddf 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources