- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
37. Gydag effaith o’r dyddiad cychwyn, ni chaiff—
(a)mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun parth cynllunio wedi ei symleiddio(1);
(b)gorchymyn sy’n dynodi parth menter a wnaed o dan adran 88 o Ddeddf 1990; neu
(c)cymeradwyo cynllun wedi ei addasu mewn perthynas â pharth menter o’r fath,
wneud y canlynol:
(i)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu
(ii)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 oni bai bod y caniatâd hwnnw yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i fabwysiadu barn sgrinio yn flaenorol neu cyn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad arfaethedig penodol yn ddatblygiad AEA.
38.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol oni bai ei fod wedi mabwysiadu barn sgrinio neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.
(3) Mae paragraff (4) ac Atodlen 5 yn gymwys pan fo—
(a)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio; neu
(b)bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,
i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.
(4) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol a fyddai’n rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad AEA oni bai—
(a)bod datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a
(b)bod yr awdurdod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth, a’i fod yn nodi yn ei benderfyniad ei fod wedi gwneud hynny.
39.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gorchymyn adran 97” (“section 97 order”) yw—
gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 97(1) o Ddeddf 1990, neu
gorchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 100(1) o Ddeddf 1990,
addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir; ac
ystyr “gorchymyn adran 102” (“section 102 order”) yw gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 102 o Ddeddf 1990 neu orchymyn Gweinidogion Cymru i’r perwyl hwnnw yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf 1990.
(3) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau, gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod cynllunio lleol wedi mabwysiadu barn sgrinio neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.
(4) Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys—
(a)i ddatblygiad Atodlen 1;
(b)pan fo naill ai—
(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu
(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,
i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.
(5) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA oni bai—
(a)ei fod wedi paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a
(b)ei fod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth a’i fod yn nodi yn ei benderfyniad ei fod wedi gwneud hynny.
(6) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA oni bai—
(a)bod datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a
(b)eu bod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth a’u bod yn nodi yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.
Gweler y diffiniad o “simplified planning zone” yn adran 336 o Ddeddf 1990.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: