- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
27.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan wneir cais am ganiatâd cynllunio i Weinidogion Cymru ac felly ystyr “cais” (“application”) yn y Rhan hon yw cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn y modd hwn.
(2) Mae Rhannau 2 i 7 yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn y paragraff canlynol a’r addasiadau a’r darpariaethau atodol yn y Rhan hon.
(3) Nid yw rheoliadau 5, 6(1), 6(2), 7 i 14(1), 16, 17(9), 18, 20, 24, 25 a 26 yn gymwys.
28.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â chais am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(c)datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o ddeddf 1990; a
(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
(3) Rhaid i berson sy’n gwneud cais yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r cais hwnnw a’r dogfennau sy’n mynd ynghyd â’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wneud cais o dan reoliad 5(7) yn gyfeiriadau at wneud cais o dan reoliad 28(1).
29.—(1) Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a)ei fod yn gais AEA; a
(b)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn mynd ynghyd â’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,
rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(5) Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (4), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.
(6) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a
(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio.
30.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru ddarparu cyfarwyddydau cwmpasu.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(c)datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; a
(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
(3) Rhaid i berson sy’n gwneud cais yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r cais hwnnw a’r dogfennau sy’n mynd ynghyd â’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.
(5) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r person sy’n gwneud y cais a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r person sy’n gwneud y cais ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(8) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion gymryd y materion a bennir yn rheoliad 13(6) i ystyriaeth.
(9) Nid oes unrhyw beth yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(10) Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
31. Mae rheoliad 15 yn gymwys fel pe bai—
(a)(a) paragraff (3) yn darllen—
“(3) Rhaid i dderbynnydd—
(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b)datganiad a wneir yn unol â rheoliad 10(4)(a), 11(5), 12(6) neu 29(3)—
(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i’r person hwnnw; a
(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.”; a
(b)y cyfeiriadau ym mharagraffau (4) a (5) i’r “awdurdod cynllunio perthnasol” ac “awdurdod” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
32. Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraff (2) yn darllen “Rhaid i’r ceisydd gyflwyno un copi o’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ac un copi i’r awdurdod cynllunio perthnasol.”
33. Mae rheoliad 17 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—
“(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—
(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;
(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(f)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;
(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl;
(i)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e); a
(j)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 29(4) (ceisiadau heb ddatganiad amgylcheddol) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r paragraffau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.”
34. Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016 fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.
35. Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai paragraff (1)(e) yn darllen “hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 29(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);”.
36.—(1) Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol o’r penderfyniad; a
(b)darparu datganiad i’r awdurdod sy’n cynnwys—
(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig ag ef;
(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seilir y penderfyniad arno, gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau ar gyfer osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad; a
(iv)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (1)(a)—
(a)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a
(b)sicrhau bod y datganiad a gafwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (1)(b), ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol y gofrestr honno).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: