- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9. Rhaid darllen rheoliad 22 fel pe bai—
(a)paragraff (1) yn darllen—
“(1) Pan fo datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi a bod yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn y dylai’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu ac y cyfeirir at wybodaeth o’r fath a ddarperir yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”)”;
(b)paragraff (3) yn darllen—
“(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol;
(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;
(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;
(d)bod copi o’r wybodaeth bellach ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;
(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(f)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach;
(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(h)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei godi am gopi;
(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (e);
(j)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.”;
(c)paragraff (4) yn darllen—
“(4) Rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall i bob person, yn unol â’r Rheoliadau, yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi ac i Weinidogion Cymru.”;
(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;
(e)paragraff (7) yn darllen—
“(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol beidio â gwneud y gorchymyn datblygu lleol cyn diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi neu ddiwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad ohoni mewn papur newydd lleol, pa bynnag un sydd ddiweddaraf.”;
(f)ym mharagraff (8)—
(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”; a
(ii)ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r” ei fod yn darllen “wybodaeth bellach neu arall”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: