- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Mae’n drosedd dechrau neu gyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin, neu ddechrau neu gyflawni prosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliadau 4 neu 8.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(3) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y rheoliad hwn sy’n ymwneud â phrosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin, tybir bod unrhyw ddarn o dir y mae’r erlyniad yn honni ei fod yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol, ac os felly rhaid i’r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y tir yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol.
22.—(1) Mae’n drosedd cyflawni unrhyw weithgarwch yn groes i amod cydsyniad a roddir yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
23.—(1) Mae’n drosedd i unrhyw berson sydd, at ddiben sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—
(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,
(b)gyda’r bwriad o dwyllo, yn defnyddio unrhyw ddogfen sy’n ffug neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, neu
(c)gyda’r bwriad o dwyllo, yn cadw gwybodaeth berthnasol yn ôl.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored—
(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na’r uchafswm statudol; neu
(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.
24.—(1) Os yw person wedi dechrau prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliad 4 neu 8, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ar unwaith y cyfan neu ran o’r gwaith (“hysbysiad stop”).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt—
(a)bod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol; neu
(b)ei fod yn cyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliad 4 neu 8.
25.—(1) Mae’n drosedd i berson fynd yn groes i hysbysiad stop, neu beri neu ganiatáu i berson arall fynd yn groes i hysbysiad stop.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored—
(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na’r uchafswm statudol; neu
(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.
26.—(1) Os yw person wedi cyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliadau 4 neu 8, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person y mae’n ymddangos iddynt ei fod yn gyfrifol (“hysbysiad adfer”).
(2) Caiff hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i’r person—
(a)adfer y tir perthnasol, er boddhad Gweinidogion Cymru, i’r un cyflwr ag yr oedd cyn dechrau’r prosiect; neu
(b)cymryd y fath gamau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i adfer y tir i gyflwr amgylcheddol da neu i safon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(3) Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan y cyfnod y mae gofynion yr hysbysiad i’w cyflawni o’i fewn.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg ar ôl dyroddi hysbysiad adfer—
(a)diwygio telerau’r hysbysiad hwnnw;
(b)estyn y cyfnod o dan baragraff (3); neu
(c)terfynu’r hysbysiad hwnnw.
27.—(1) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion hysbysiad adfer yn euog o drosedd.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod—
(a)i ddirwy; a
(b)os yw’r methiant i gydymffurfio yn parhau ar ôl dyddiad yr euogfarn, i ddirwy bellach nad yw’n fwy na £100 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.
28.—(1) Caniateir dwyn achosion cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o 6 mis o’r dyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.
(2) Ond ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o’r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na 2 flynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy’n datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffaith honno; a
(b)bernir bod tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
29.—(1) Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir a’i arolygu, ar unrhyw adeg, at ddibenion—
(a)canfod pa un a yw rheoliad 4 neu 8 wedi eu torri;
(b)canfod pa un a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â’r tir hwnnw;
(c)cyflwyno hysbysiad stop neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â’r tir hwnnw; neu
(d)arfer swyddogaeth a restrir yn Atodlen 4.
(2) Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ac sydd â sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 23—
(a)cael mynediad i unrhyw fangre sydd, neu y credir ei bod, wedi ei meddiannu gan, neu wedi ei feddu gan, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni’r drosedd; a
(b)cymryd copïau o unrhyw gofnodion sy’n berthnasol i gyflawni’r drosedd a amheuir.
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig.
(4) Os nad oes unrhyw fesurau sy’n ofynnol gan hysbysiad adfer neu gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 4 wedi eu cyflawni o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—
(a)caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael mynediad, ar adeg resymol, i’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chyflawni’r mesurau hynny; a
(b)adennill yr holl dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person a enwir yn yr hysbysiad.
(5) At ddibenion canfod pa un a gyflawnwyd trosedd ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir, caiff person sy’n gweithredu yn unol â pharagraff (1) symud ymaith—
(a)samplau pridd;
(b)sbesimenau planhigion; neu
(c)samplau a gymerir o sbesimenau planhigion.
(6) Rhaid i berson a awdurdodir i gael mynediad i dir neu fangreoedd o dan y rheoliad hwn ddangos tystiolaeth ei fod wedi ei awdurdodi i gael mynediad i’r tir neu’r mangreoedd, os gofynnir iddo wneud hynny.
(7) Caiff person a awdurdodir i gael mynediad i dir neu fangreoedd o dan y rheoliad hwn ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y maent yn ystyried eu bod yn angenrheidiol gyda hwy.
(8) Rhaid i berson sy’n meddiannu tir neu fangre, neu sy’n meddu ar dir neu fangre, y mae person a awdurdodir o dan y rheoliad hwn wedi mynd arno neu arni, roi y fath gymorth y gall y person awdurdodedig hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bŵer a roddir iddo gan y rheoliad hwn.
(9) Mae’n drosedd i berson—
(a)rhwystro neu atal yn fwriadol person sy’n gweithredu wrth arfer pŵer a roddir o dan y rheoliad hwn; neu
(b)methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, â cheisiad a wnaed o dan baragraff (8).
(10) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (9) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: