- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
30.—(1) Caniateir apelio i Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn yn erbyn—
(a)hysbysiad perthnasol; neu
(b)penderfyniad perthnasol.
(2) Caniateir cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad perthnasol ar y sail—
(a)nad oedd gan Weinidogion Cymru bŵer i gyflwyno’r hysbysiad perthnasol, neu nad oedd ganddynt bŵer i gynnwys amod ynddo;
(b)bod rhyw afreoleidd-dra, ddiffyg neu wall perthnasol wedi bod yn yr hysbysiad perthnasol, neu mewn cysylltiad ag ef; neu
(c)bod unrhyw un o ofynion yr hysbysiad yn afresymol.
(3) Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r personau canlynol gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol—
(a)y person a wnaeth gais am benderfyniad sgrinio y mae Gweinidogion Cymru wedi ei wneud, neu y bernir eu bod wedi ei wneud, fod prosiect yn brosiect sylweddol yn unol â rheoliad 7;
(b)y person a wnaeth gais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol ac y gwrthodwyd y cais hwnnw gan Weinidogion Cymru; neu
(c)person a hysbyswyd am benderfyniad o dan baragraff 3 o Atodlen 4.
(4) Rhaid i apêl a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3)—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig yn y dull a’r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(b)cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac
(c)dod i law Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru yr hysbysiad perthnasol, neu’r dyddiad y gwnaeth Gweinidogion Cymru y penderfyniad perthnasol y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.
(5) Rhaid i’r apelydd ddatgan a yw’n dymuno i’r apêl gael ei hystyried a’i phenderfynu—
(a)ar sail sylwadau ysgrifenedig;
(b)mewn gwrandawiad llafar; neu
(c)drwy ymchwiliad lleol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, ei swyddogaeth o benderfynu ar yr apêl neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r apêl, ac mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o’r fath.
(7) Yn y Rhan hon—
ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw hysbysiad stop, hysbysiad adfer neu hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 5 o Atodlen 4;
ystyr “partïon â buddiant” (“interested parties”) yw—
y fath gyrff ymgynghori y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol;
person sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r penderfyniad perthnasol;
Gwladwriaeth AEE sy’n debygol o gael ei heffeithio yn unol â rheoliad 13(1);
awdurdod neu berson a roddodd ei farn yn unol â rheoliad 13(4)(b);
unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddo fuddiant penodol yn nhestun yr apêl;
ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw penderfyniad sgrinio a wnaed o dan reoliad 7, penderfyniad cydsyniad a wnaed o dan reoliad 15 a phenderfyniad a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4; ac
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 30(6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: