- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 2(1)
1. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
2. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn.
3. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod wedi ei liwio'n las.
4. Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.
5. Rhaid i label swyddogol fesur dim llai na 110 o filimetrau x 67 o filimetrau.
6. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol, mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â nhw, ddatgan y manylion a ganlyn—
(a)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfodd neilltuol;
(b)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;
(c)mis a blwyddyn ei selio;
(ch)y rhywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig, o dan ei enw botanegol, y gellir ei roi mewn ffurf dalfyredig ac heb enwau'r awduron, neu o dan ei enw cyffredin, neu'r ddau;
(d)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig; a
(dd)y disgrifiad “tatws hadyd cyn-sylfaenol”.
7. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig—
(a)cynnwys y datganiad “Rheolau a Safonau'r UE”; a
(b)mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfoddau;
(ii)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;
(iii)mis a blwyddyn ei selio;
(iv)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig;
(v)y wlad lle'u cynhyrchwyd;
(vi)y categori;
(vii)ar gyfer tatws hadyd sylfaenol, y Radd Gymuned (os yn briodol);
(viii)y maint; a
(ix)y pwysau net.
8. Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu—
(a)cynnwys y datganiadau “amrywogaeth nas rhestrwyd eto” ac “ar gyfer profi a threialu'n unig”; a
(b)mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—
(i)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfodd neilltuol;
(ii)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;
(iii)mis a blwyddyn ei selio;
(iv)y rhywogaeth;
(v)dynodiad yr amrywogaeth y mae'r tatws hadyd i gael eu marchnata odditano (a eill fod yn gyfeirnod y bridiwr, y dynodiad arfaethedig neu'r dynodiad a gymeradwywyd);
(vi)y cyfeirnod mewn perthynas â'r cais a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001 ar gyfer derbyn yr amrywogaeth dan sylw i Restr Genedlaethol;
(vii)y maint; a
(viii)y pwysau net.
9. Heb iddo leihau effaith paragraffau 1 i 8, caiff label swyddogol gynnwys datganiadau pellach o'r fath—
(a)sy'n angenrheidiol neu y caniateir eu cynnwys mewn label swyddogol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn neu yng Ngorchymyn Iechyd (Cymru) 2006; neu
(b)ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn briodol.
10. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei lliwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.
11. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.
12. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod yn wyn yn bennaf.
13. Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod yn las yn bennaf.
14. Rhaid i ddogfen swyddogol,mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan—
(a)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;
(b)mis a blwyddyn ei selio; a
(c)y wlad lle'u cynhyrchwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: